| __________________________________________________________________________________________________________________ | ||||
Cynigir gwasanaethau o berfformiadau byw, cyfarfodydd corfforaethol (addysg, yswiriant, adrodd, meddygol, amaethu, gwerthu eiddo) neu ddigwyddiad arbennig. Gallwn ffilmio trwy ddefnyddio naill ai un camera neu amryw o gamerâu gan ddefnyddio camerâu HDV o’r ansawdd gorau a microffonau proffesiynol, cyn eu trosi i ffurfiau PAL ac NTSC a rhoi’r cynnwys ar DVD ar gyfer eu gwylio ar y teledu, neu er mwyn eu rhoi ar eich gwefan, Youtube, Facebook ac ar e-bost. Rydym yn gweithio gyda Compressor, meddalwedd amgodio o’r radd flaenaf. Fideo ar gyfer y We Os ydych yn barod i hyrwyddo’ch gwaith ar-lein, rydym yn cynnig pecyn digidol sy’n cynnwys Gwefan gyda CD Sain a Fideo fydd yn gallu cael eu gweld ar-lein ac/neu gellir gwrando arno mewn peiriant CD neu yn y car, a’i wylio ar y teledu trwy gyfrwng chwaraewr DVD. Priodasau Gofynnir am flaendal o 25% wrth Archebu. Ni ellir ad-dalu’r blaendal hwn. Awgrymir i chi archebu ymlaen llaw er mwyn cadw’r dyddiad. Bydd ffotograffydd ar gael os gofynnir amdano. |
||||
__________________________________________________________________________________________________________________
|