Cymraeg | English            

__________________________________________________________________________________________________________________


 

 

 

Amdanom

eclectrix.co.uk

 

 


 

Time Captured Is Time Created



Sefydlwyd Eclectrix® Inc., gan Angela Viscido a gafodd ei geni a’i magu yng Ngorllewin Cymru. Teithiodd i’r UDA yn 21ain oed, ac yno gwelodd le yn y farchnad yn y byd aml-gyfrwng yn Ninas Efrog Newydd yn 1998, cyn creu Eclectrix, Inc. yn y flwyddyn 2000.

Mae Eclectrix, Inc. yn arbenigo mewn celfyddydau perfformio, sy’n cynnwys grŵp creadigol a grymus o gynhyrchwyr fideo, cynhyrchwyr ffilmiau, Artistiaid mewn Celfyddyd Rithwir, Arbenigwr Aml-gyfrwng a Datblygwyr Gwe. Mae’r tîm wedi ymroi i gynnig gwasanaeth cyfeillgar a chost-effeithiol i’n cwsmeriaid.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y Celfyddydau Perfformio a 16 o flynyddoedd yn y diwydiant aml-gyfrwng, mae Angela, gyda’i gwybodaeth, wedi creu Eclectrix.co.uk a hwn yw’r cwmni Cynhyrchu Fideo yng Ngorllewin Cymru. Mae enw da’r cwmni wedi dod i amlygrwydd am ddarparu gwasanaeth cynhyrchu digidol o’r ansawdd gorau, gan gynnwys priodasau, digwyddiadau arbennig, cerddoriaeth a fideos corfforaethol.

Gwireddwyd breuddwyd o rannu gwybodaeth werthfawr y diwydiant technegol aml-gyfrwng, sy’n prysur dyfu, i bobl ifanc broffesiynol, yma yng Ngheredigion, Cymru.

Dewch i weld os yw’n gwasanaeth unigryw yn addas ar eich cyfer chi. Rydym yn hapus i drafod eich digwyddiad a’ch arwain trwy’r broses, gan gynnig cyngor profiadol, er mwyn sicrhau bod eich gweledigaethau yn cael eu gwireddu.

__________________________________________________________________________________________________________________

 

 

2014 Mae pob hawlfraint wedi ei gadw yn enw Eclectrix, Inc.©

Ceredigion, Wales, UK
Ffon: +44 (0) 1 545 570 919

E-bost: info@eclectrix.co.uk



New York, New York, USA
Ffon: +00 (1) 212 569 9246

E-bost:
eclectrix@eclectrix.net